Mae 13 o bobol wedi cael eu lladd,p ac mae pedwar arall ar goll, yn dilyn tirlithriad yn ne Fietnam, wedi cyfnod o law trwm a storm drofannol.
Mae tua 600 o filwyr yn ardal Khanh Hoa wedi cael eu galw i chwilio am y rhai sydd ar goll ac i wagio’r ardaloedd sydd mewn peryg.
Storm Drofannol Toraji oedd wedi achosi’r llithriad a ddinistrio nifer o dai mewn pentrefi o gwmpas dinas Nha Tran ddydd Sul (Tachwedd 18).
Mae Fietnam yn gyfarwydd â stormydd o’r fath sy’n lladd cannoedd o bobol yno bob blwyddyn.