Mewn fforwm ar yr economi yn hwyrach heddiw, mae disgwyl i brif weinidog yr Alban ddweud bod unrhyw fath o gytundeb Brexit yn mynd i fod yn wael i economi gwledydd Prydain.
Mae Nicola Sturgeon yn galw ar lywodraeth Theresa May i aros o fewn y farchnad sengl a’r undebau tollau, ac mae disgwyl iddi drafod y “difrod mawr” mae Brexit yn debygol o’i achosi i swyddi ac amodau byw yn yr Alban hefyd.
Ddoe (dydd Sul, Tachwedd 19) dywedodd Nicola Sturgeon y bydd Aelodau Seneddol ei phlaid, yr SNP, yn pleidleisio yn erbyn cynllun ymadael Theresa May.
Diffyg eglurder ynglŷn â dyfodol perthynas Prydain gyda’r Undeb Ewropeaidd oedd ei phrif reswm wrth drafod y mater ar The Andrew Marr Show ar BBC1.
“Os yw Tŷ’r Cyffredin yn dweud ein bod am ddod allan o’r farchnad sengl ac o’r undebau tollau, rydyn ni eisiau mwy o amser i fynd â hyn yn ôl at bobol y Deyrnas Unedig mewn pleidlais arall,” meddai Nicola Sturgeon.
“Mae angen estyniad arnomn ni o Erthygl 50, os oes yna newid cyfeiriad clir, yna credaf byddai’r EU 27 yn barod i edrych ar hynny.”