Mae criwiau achub yn Ffrainc wedi dod o hyd i gorff dyn yng ngweddillion dau adeilad yn ninas Marseille yn ne’r wlad.
Fe ddaeth cadarnhad gan ymladdwyr tân y ddinas, ar Twitter, fod y corff wedi’i ddwyn allan o’r rwbel.
Ond mae’r awdurdodau yn pryderu y gall fod rhagor o bobol yn sownd yn y gweddillion.
Fe gwympodd y ddau adeilad – un ohonyn nhw’n wag – fore Llun yr wythnos hon.