Mae elusen yn rhybuddio bod miliynau o bobol Yemen yn agos at newyn a chlefyd ar ôl i glymblaid Sawdi Arabia osod blocâd ar fôr, tir a llwybrau awyr y wlad.
Yemen yw gwlad dlotaf y byd Arab a dywedodd Jan Egeland o Gyngor Ffoaduriaid Norwy bod y deuddeg mis diwethaf wedi bod yn “hunllef ddiddiwedd i ddinasyddion Yemen”.
Roedd gan glymblaid Sawdi Arabia fynediad cyfyngedig i Yemen ym mis Tachwedd y llynedd ar ôl i daflegryn rebeliaid Shia Houthi dargedu prifddinas Sawdi, Riyadh.
Mae Sawdi Arabia wedi bod yn rhyfela gyda’r Shia Houthu, sydd â chefnogaeth Iran, ers Mawrth 2015 – mae’r gwrthdaro wedi creu un o argyfyngau dyngarol gwaethaf y byd.
Mae Cyngor Ffoaduriaid Norwy yn dweud bod y rhyfel wedi gadael 12 miliwn o bobol mewn perygl o wynebu newyn.