Mae siarc wedi lladd dyn mewn harbwr yn Awstralia – a hynny ychydig wythnosau’n unig wedi i ddau ymwelydd gael eu llarpio yn yr un ardal ym mis Medi.

Roedd y gwr 33 oed yn un o griw o ddeg o ffrindiau a oedd ar daith gwch yn mynd o Draeth Airlie yn nhalaith Queensland. Ond, tua 14 milltir o’r lan yn Harbwr Cid, ger Ynys Whitsunday.

Roedd yr hwyliwr yn mynd am yn ail ar gwch pedal  yn yr harbwr pan ddeifiodd i’r môr a chael i dargedu gan y siarc.

Ar y pryd, roedd mwy na dwsin o gychod pleser yn yr harbwr, ac fe lansiodd criw o Ffrainc ddingi er mwyn ceisio achub y dyn o’r dwr.  Ond er iddo gael ei dynnu i’r lan, fe fethodd neb â’i gadw’n fyw.