Mae cyn-arweinydd yr SNP yn mymd â Llywodraeth yt Alban i’r llys heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 6) wrth iddo wynebu honiadau o aflonyddu rhywiol.

Bydd cyfreithwyr Alex Salmond yn ymddangos yn Llys y Sesiwn yng Nghaeredin ar cyflwyno camau sifil.

Mae cyn-arweinydd yr SNP yn gwadu’r cyhuddiadau yn gryf.

Ers y cyhuddiadau, mae wedi ymddiswyddo o’r blaid ac mae’n destun adolygiad barnwrol yn y llys sifil uchaf yn yr Alban.

Bydd yr achos yn cael ei glywed yn ei gyfanrwydd dros bedwar diwrnod o Ionawr 15 flwyddyn nesaf.

Dywedodd llefarydd Alex Salmond nad oes ganddyn nhw “unrhyw sylwadau i’w gwneud” heblaw bod Salmond yn “edrych ymlaen at y cyfle i nodi ei achos llawn.”

Yn ôl Llywodraeth yr Alban fe dderbyniwyd “dau gŵyn ym mis Ionawr mewn cysylltiad ag Alex Salmond na ellir eu hanwybyddu.”