Mae John Downey wedi cael ei ddwyn i’r ddalfa gan heddlu Iwerddon neithiwr (nos Lun, Tachwedd 5) fel rhan o ymchwiliad i weithrediadau’r IRA yn y 1970au.

Fe fydd yn ymddangos gerbron Uchel Lys Dulyn heddiw (Tachwedd 6) wrth i erlynwyr Gogledd Iwerddon geisio ei estraddodi o’r wlad i wynebu cyhuddiadau o lofruddio dau filwr.

Yn ôl erlynwyr, mae digon o dystiolaeth i erlyn John Downey am lofruddio’r Corporal Alfred Johnston, 32, a’r Preifat James Eames, 33 yn 1972.

Bu farw’r ddau pan ffrwydrodd bom yr IRA mewn car yr oedden nhw’n ei archwilio ar Irvinestown Road, Cherrymount, Enniskillen ar Awst 25, 1972.

Achos cysylltiedig
Mae wedi ei gyhuddo hefyd o lofruddio pedwar o’r Marchoglu Brenhinol mewn ffrwydrad arall yn Hyde Park yn 1982.
Fe fu ar brawf yn yr Old Bailey, ond fe chwalodd yr achos oherwydd iddo ddatgelu ei fod wedi derbyn sicrwydd ysgrifenedig gan y cyn-Brif Weinidog Tony Blair nad oedd yr awdurodau yn dymuno ei ddal.
Daeth i sylw’r awdurdodau eto wrth iddo fynd trwy’r Deyrnas Undedig wrth fynd ar wyliau.
Mae John Downey yn dal i wadu unrhyw ran yn yr ymosodiadau.