Mae pum dyn wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â llosgi model o Dŵr Grenffell fel coelcerth neithiwr (Tachwedd 5).

Fe gerddodd y dynion, dau 49 oed, un 46, un 55 ac un 19 – i mewn i swtddfa heddlu o’u gwirfodd yn ne Llundain am 10 o’r gloch nos Lun.

Roedd fideo ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos model mawr o’r adeilad a’r enw ‘Tŵr Grenffell’ wedi’i ysgrifennu arno, gyda modelau papur o bobol mewn ffenestri yn cael eu llosgi.

Bu farw 72 o bobol o ganlyniad i’r trasiedi go iawn yn ardal Kensington yn Llundain ar Fehefin 14, 2017.

Mae chwerthin i’w glywed yn y fideo wrth i’r fflamau gydio.

“Fideo mochynnaidd”

Mae ymgyrchwyr Grenfell4Justice a Grenfell United wedi disgrifio’r fideo fel “gweithred gyfoglyd o gasineb” ac fel  “fideo mochynnaidd”.