Mae teulu nyrs o Abertawe a fu farw tra ar wyliau yn Dubai, am orfod talu degau o filoedd o bunnau i ddod â’i charff gartref i Gymru.

Mae Charlotte Carter wedi cael ei disgrifio fel “y fenyw fwyaf gofalgar a meddylgar” gan bobol oedd yn ei nabod, a’i bod wedi treulio ei bywyd gwaith yn cynorthwyo pobol ag afiechyd meddwl.

Roedd hi’n gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd yn Llundain, ac wedi edrych ymlaen at y daith i Dubai. Ond fe ddechreuodd deimlo’n sâl ar yr awyren.

Unwaith y glaniodd yr awyren yn Dubai, fe gafodd hi ei chludo i ysbyty, lle bu farw yn yr uned gofal dwys yn ddiweddarach.

Gan nad oedd hi wedi prynu yswiriant teithio, fe fydd yn rhaid i’w theulu ysgwyddo costau’r driniaeth feddygol a chario ei chorff o’r Dwyrain Canol.

Y gred ydi y bydd y gost tua £40,000.

Mae tudalen Crowdfunding wedi’i sefydlu ar y we er mwyn codi arian er cof am y nyrs 30 oed. Erbyn bore heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 6) mae dros £20,000 wedi’i gasglu.