Mae’r dyn sydd wedi’i arestio ar amheuaeth o ladd 11 o bobol mewn synagog yn Pittsburgh, wedi’i gyhuddo o ddwsinau o droseddau.

Mewn gwrandawiad ddoe (dydd Mercher, Hydref 31) fe gafodd Robert Bowers ei gyhuddo o 44 trosedd, yn cynnwys troseddau casineb.

Mae erlynwyr wedi rhybuddio y byddan nhw’n galw am y gosb eithaf oherwydd difrifoldeb y rhestr o gyhuddiadau.

Mae Robert Bowers, gyrrwr lori 46 oed, wedi’i gadw yn y ddalfa cyn y mae disgwyl iddo ymddangos gerbron llys heddiw.