Mae troseddau difrifol gan gangiau yn costio £37bn y flwyddyn i economi gwledydd Prydain, yn ôl ffigyrau.

Yn ôl yr asesiad gan yr Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol, mae’r ffigwr hwn wedi cynyddu’n sylweddol ers pum mlynedd yn ôl, pan oedd y gost yn £24bn.

Maen nhw’n amcangyfrif bod tua 4,600 o gangiau a grwpiau troseddol yn gweithredu yn y Deyrnas Unedig, gyda’r troseddau amlycaf yn cynnwys cyffuriau, masnachu gynnau a chaethwasiaeth.

Dywed y Swyddfa Gartref wedyn fod troseddau o’r fath yn effeithio mwy ar fywydau pobol na holl fygythiadau diogelwch eraill y Deyrnas Unedig ynghyd.

Mae Lywodraeth Prydain yn bwriadu cyhoeddi cynllun a fydd yn mynd i’r afael â’r broblem, gan wario £48m ar wella ymateb yr awdurdodau i droseddau difrifol.

Pryder

“Mae nifer o droseddwyr difrifol yn credu eu bod nhw y tu hwnt i’r gyfraith,” meddai’r Gweinidog dros Ddiogelwch a Throseddau Economaidd, Ben Wallace.

“Maen nhw’n meddwl eu bod nhw’n gallu herio’r wladwriaeth, ac maen nhw’n credu eu bod nhw’n rhydd i weithredu yn erbyn ein busnesau a’n ffordd o fyw.

“Mae hynny’n anghywir.”