Mae tri o bobol wedi cael eu hanafu ar ôl i fachgen ifanc ladd ei hun wrth ffrwydro dyfais y tu allan i gangen o brif asiantaeth wybodaeth Rwsia.
Yn ôl yr awdurdodau, fe gafodd y bachgen 17 oed fynediad i gangen o’r FSB yn Akhangelsk yng ngogledd y wlad, cyn tynnu bom allan o’i fag a’i danio.
Fe laddodd y ffrwydrad y bachgen a thri o swyddogion diogelwch yr FSB.
Dyw hi ddim yn glir eto a oedd hi’n fwriad gan y bachgen i ladd ei hun yn ystod y digwyddiad ai peidio, ond mae ymchwilwyr yn ei drin fel un brawychol.
Mae’r FSB ac asiantaethau diogelwch eraill wedi cael eu targedu droeon yn y gorffennol, a hynny’n bennaf gan eithafwyr Islamaidd.