Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i ddynes a’i chŵn farw mewn tân yn ardal Towyn fore heddiw (dydd Mercher, Hydref 31).

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Ffordd Gors am 8.48yb yn dilyn adroddiadau o fwg mewn eiddo.

Cafodd injanau o Fae Colwyn, Y Rhyl ac Abergele eu hanfon i’r byngalo, lle daethon nhw o hyd i fflamau yn yr adeilad.

Cafodd dynes yn ei 60au ei chludo i’r ysbyty, lle bu farw’n ddiweddarach.

Bu farw dau gi yn y tân hefyd.