Mae Aelod Seneddol yr SNP, Pete Wishart wedi rhybuddio y gallai cefnogi ‘Pleidlais y Bobol’ ar Brexit beryglu refferendwm annibyniaeth i’r Alban yn y dyfodol.
Dywedodd y gallai galwadau am ‘bleidlais y bobol’ ddod yn sgil ennill yr hawl i gynnal refferendwm annibyniaeth o’r newydd, ac y byddai’n anodd eu gwrthsefyll pe bai’n cael ei gynnal yn sgil Brexit.
Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon eisoes wedi datgan ei chefnogaeth “ddigamsyniol” i bleidlais gyhoeddus ar delerau ymadawiad Prydain â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae hi hefyd wedi galw am gydsyniad pedair gwlad Prydain cyn bod modd ymadael, ar ôl i drigolion yr Alban bleidleisio o blaid aros.
‘Dim llai na gwahoddiad i anwybyddu ein llais cenedlaethol’
“Mae dweud y byddwn ni’n cefnogi refferendwm heb unrhyw sicrwydd y bydd ein llais cenedlaethol o leiaf yn cael ei gydnabod yn ddim llai na gwahoddiad agored i gael anwybyddu ac amharchu ein safbwynt cenedlaethol unwaith eto,” meddai Pete Wishart mewn erthygl yn The National.
“Drwy gytuno’n frwdfrydig i bleidlais gadarnhad tros refferendwm yr Undeb Ewropeaidd, rydym yn gwanhau ein llaw wrth wrthwynebu galwadau Unoliaethol am ail bleidlais ar refferendwm annibyniaeth llwyddiannus.
“A phe na baen nhw’n llwyddo i ddefnyddio’r cynsail hwn yn ein herbyn ni, byddai Unoliaethwyr anfodlon yn gweithio’n ddi-baid o drannoeth y refferendwm i sicrhau bod modd gwyrdroi canlyniad llwyddiannus.”
‘Annhebygol’
Mae Pleidlais y Bobol yn annhebygol o ddigwydd, yn ôl Pete Wishart.
“Gallen ni fod yn cyflwyno pob math o beryglon i refferendwm annibyniaeth yn y dyfodol am ddim byd,” meddai.
“Mae pleidlais syfrdanol yr Alban i aros yn 2016… wedi cael ei hanwybyddu’n llwyr, sy’n tanlinellu sut mae San Steffan yn methu â chynrychioli na gwarchod buddiannau cenedlaethol hanfodol yr Alban,” meddai llefarydd ar ran yr SNP.