Mae dyn 52 oed wedi’i gadw yn y ddalfa ar ôl cael ei gyhuddo o lofruddio dyn 54 oed ar faes carafanau ym Mhentywyn yn Sir Gâr.

Cafwyd hyd i gorff Simon Clark ar Fedi 28.

Mae Steve Baxter – neu Wayne Tidy, a defnyddio ei enw iawn – wedi’i gyhuddo o lofruddio ac o fod â llafn yn ei feddiant.

Aeth gerbron ynadon Llanelli fore heddiw, ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa tan ddydd Gwener, pan fydd yn mynd gerbron Llys y Goron Abertawe.

Hefyd wedi’u cyhuddo mewn perthynas â’r digwyddiad mae Jeffrey Stephen Ward, 40 (llofruddio); Kirston Macklin, 52, Linda Mary Rowley, 52, a Julie Louise Harris, 46 (cynorthwyo troseddwr).