Mae golygydd cylchgrawn Waitrose yn camu o’r neilltu ar ôl cael ei feirniadu am jôc am ladd figaniaid.
Awgrymodd William Sitwell fod y gohebydd Selene Nelson yn ysgrifennu cyfres o erthyglau am orfodi cig ar figaniaid, ar ôl i’r archfarchnad lansio bwydydd fegan newydd.
“Beth am gyfres ar ladd figaniaid fesul un; ffyrdd o’u caethiwo? Sut i’w holi nhw’n iawn? Datgelu eu rhagrith? Gorfodi cig arnyn nhw? Gwneud iddyn nhw fwyta stecen ac yfed gwin coch?” meddai mewn e-bost.
Mae’r cylchgrawn wedi croesawu ei benderfyniad i gamu o’r neilltu yn sgil ei sylwadau.
‘Sioc’
Mae Selene Nelson yn dweud iddi gael “sioc” o dderbyn yr e-bost.
“Dw i erioed wedi gweld y fath beth,” meddai wrth BuzzFeed News. “Dw i wedi ysgrifennu am nifer o bynciau sy’n hollti barn, fel y gosb eithaf ac achosion o lofruddio a thrais yn y cartref, a dw i erioed wedi cael y fath ymateb i fy erthyglau na syniadau.
“A fe yw’r golygydd. Mae’n cynrychioli Waitrose ac yn siarad am ‘ladd figaniaid, fesul un’?”
Dywedodd mai “hawl” William Sitwell yw lladd ar figaniaid, ond ei bod yn “rhyfedd” wrth gynrychioli Waitrose ei fod e wedi mynegi’r farn honno.