Fydd Aelod Seneddol Sinn Fein, Barry McElduff ddim yn cael ei erlyn am wisgo torth o fara am ei ben wrth wneud hwyl am ben cyflafan Kingsmill ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ac fydd Aelod Cynulliad Sinn Fein, Mairtin O Muilleoir, ddim yn cael ei erlyn am rannu’r fideo ar Twitter chwaith.

Yn ôl y Gwasanaeth Erlyn Cyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon, does dim digon o dystiolaeth fod y naill na’r llall wedi bwriadu unrhyw sarhad.

Ond fe fu’n rhaid i Barry McElduff, 52, ymddiswyddo o fod yn Aelod Seneddol Gorllewin Tyrone ym mis Ionawr yn dilyn cwynion gan deuluoedd 10 o ddynion a gafodd eu saethu’n farw gan weriniaethwyr yn 1976.

Dywedodd nad oedd e wedi sylweddoli, wrth bostio’r fideo, ei bod yn 42 mlynedd union ers y gyflafan, a dywedodd Mairtin O Muilleoir nad oedd e wedi sylweddoli bod y fideo yn wleidyddol ei naws.