Mae pump o ddynion sy’n gysylltiedig â chwmni bysus yng Ngwynedd wedi cael eu dedfrydu i gyfanswm o 29 mlynedd yng ngharchar ar ôl cael eu canfod yn euog o dwyll.

Mae’r criw yn cynnwys cyn-berchennog Express Motors, tri o’i feibion ac un gyrrwr.

Mae Eric Wyn Jones, 77, ac un o’i feibion, Ian Wyn Jones, 53, wedi cael eu dedfrydu i saith mlynedd a hanner o garchar yr un am gynllwyno i gyflawni twyll trwy gynrychiolaeth ffug.

Rhoddwyd saith mlynedd o garchar i Kevin Wyn Jones, 55, a chwe blynedd i Keith Jones, 51, am dwyll, tra bo’r gyrrwr, Rheinallt Williams, 44, wedi’i ddedfrydu i flwyddyn o garchar.

Twyllo

Clywodd y llys fod y cwmni wedi defnyddio pasiau bws i bobol dros 60 oed, a oedd naill ai wedi’u dwyn neu wedi’u colli, er mwyn cynyddu’r nifer o deithiau.

Mae’n debyg y pasiau wedi cael eu defnyddio mwy nag 80,000 o weithiau dros gyfnod o ddwy flynedd, gyda’r cwmni wedyn yn hawlio arian oddi wrth Gyngor Gwynedd trwy gynllun consesiynau teithio.

Cafodd y pum dyn eu canfod yn euog o dwyll yn dilyn achos llys a barodd pedair wythnos yn Llys y Goron Caernarfon.