Fe fydd delw o Boris Johnson yn cael ei llosgi yn ystod dathliadau blynyddol Cymdeithas Goelcerthi Edenbridge yn swydd Caint eleni.
Mae’r gymdeithas yn dewis ffigwr cyhoeddus dadleuol y flwyddyn i’w losgi ar Noson Guto Ffowc.
Y cyn-Weinidog Tramor ddaeth i’r brig yn sgil ei arfer o fod yn y newyddion am ei gamgymeriadau a’i sylwadau dadleuol.
Ymhlith yr enwogion sydd wedi’u llosgi yn y gorffennol mae’r cyfarwyddwr ffilm Harvey Weinstein, Arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump a chyn-bennaeth FIFA Sepp Blatter.
Y ddelw
Yn y ddelw 36 troedfedd, sydd wedi’i dylunio gan Andrea Deans, fe fydd Boris Johnson yn gwisgo siorts Hawaii, gyda siaced las, sanau o wahanol liwiau i’w gilydd a helmed seiclo. Fe fydd yn dal cacen wedi’i haddurno yn lliwiau’r Undeb Ewropeaidd.
Wrth ei draed, fe fydd bysys Brexit cochion oedd wedi’u defnyddio i honni y gallai £350m oedd yn cael ei wario ar yr Undeb Ewropeaidd fynd at y Gwasanaeth Iechyd.
Bydd e hefyd yn gwisgo rhosaddurn yn dathlu 90 mlynedd ers sefydlu’r gymdeithas.
Mae disgwyl mwy na 10,000 o bobol yn y digwyddiad, a’r elw’n mynd at elusennau.