Mae cyn-wrthwynebydd Canghellor yr Almaen, Friedrich Merz wedi datgan ei fwriad i olynu Angela Merkel yn arweinydd plaid Undeb Democrataidd y Cristnogion (CDU).
Fe fu’r ddau yn wrthwynebwyr ffyrnig cyn i Friedrich Merz ddiflannu oddi ar y llwyfan gwleidyddol am gyfnod.
Fe fydd yr arweinydd newydd yn cael ei ddewis fis Rhagfyr.
Mae Angela Merkel yn rhoi’r gorau i’r arweinyddiaeth, ond yn bwriadu parhau’n Ganghellor.
Mae Annegret Kramp-Karrenbauer a Jens Spahn eisoes wedi cyflwyno’u henwau.