Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi enw’r ferch 4 oed a fu farw mewn damwain draffig ger Caerfyrddin dros y penwythnos.
Bu farw Darcy-May Elm o Swanage, Swydd Dorset, yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A40 i’r gorllewin o Gaerfyrddin tua 7.50yh nos Sadwrn (Hydref 27).
Roedd dau gerbyd yn gysylltiedig â’r digwyddiad, sef Nissan Micra glas a Skoda Fabia du.
Mewn teyrnged, mae teulu Darcy-May Elm wedi’i disgrifio fel merch “gariadus a hyfryd a gafodd ei dwyn o’r byd yn rhy gynnar”.
Maen nhw hefyd wedi gofyn am lonydd wrth iddyn nhw alaru am ei marwolaeth.