Mae 25 o bobol wedi marw yn dilyn damwain yn Afghanistan yn cynnwys un o hofrenyddion byddin y wlad.
Yn ôl yr awdurdodau, fe fu’r digwyddiad mewn ardal fynyddig yn ardal Anar Dara yng ngorllewin Afghanistan yn ystod tywydd garw.
Roedd dirprwy bennaeth y fyddin yn y gorllewin ac aelodau o gyngor rhanbarthol Farah, gan gynnwys y cadeirydd, Farid Bakhtawar, ar yr hofrennydd adeg y ddamwain.
Yn y cyfamser, mae hunan-fomiwr wedi ffrwydro ei hun y tu allan i garchar mwyaf y wlad ar gyrion dinas Kabul, gan ladd saith o bobol.
Roedd yr ymosodwr wedi targedu bws a oedd yn cario gweithwyr y carchar, yn ôl swyddogion.
Does dim wedi cymryd cyfrifoldeb am yr ymosodiad, hyd yn hyn.