Mae Cristion a gafodd ei chanfod yn euog o gabledd yn Pacistan rai blynyddoedd yn ôl wedi llwyddo i osgoi’r gosb eithaf, yn dilyn penderfyniad dadleuol gan uchel lys y wlad.

Cafodd Asia Bibi ei chyhuddo o gyflawni’r drosedd ar ôl i ddwy ddynes wrthod yfed dŵr o botel a oedd yn cael ei ddefnyddio gan Gristion.

Ychydig ddiwrnodau yn ddiweddarach, cafodd ei chyhuddo o gabledd a’i dedfrydu i farwolaeth yn 2010.

Ond mae’r penderfyniad diweddaraf gan yr Uchel Lys wedi achosi cryn gynnwrf ym Macistan, gyda Mwslimiaid yn tyrru i strydoedd rhai o ddinasoedd y wlad er mwyn lleisio’u gwrthwynebiad.

Yn 2011, cafodd Salman Taseer, llywodraethwr rhanbarth Punjab, ei saethu’n farw gan un o’i ddynion ar ôl iddo amddiffyn Asia Bibi a beirniadu’r defnydd o’r ddeddf gabledd.

Mae’r gŵr a gyflawnodd y weithred, Mumtaz Qadri, yn cael ei ddathlu fel merthyr ers iddo gael ei grogi am y drosedd, gyda miliynau yn ymweld â chrair er cof amdano ger Islamabad.