Mae prifysgol yn Llundain am roi’r gorau i gyflwyno cynigion ‘diamod’ i ddarpar fyfyrwyr er mwyn “cadw safonau”.
Daw’r cyhoeddiad gan Brifysgol y Santes Fair yn Twickenham ar ôl iddyn nhw ddarganfod bod nifer o fyfyrwyr a dderbyniodd gynigion ‘anamodol’ ganddyn nhw yn tan gyflawni.
Mae cynnig o’r fath yn golygu bod myfyrwyr wedi sicrhau lle mewn prifysgol o’u dewis cyn derbyn eu canlyniadau Lefel A.
Mae prifysgolion ledled Cymru a Lloegr wedi cael eu beirniadu yn ddiweddar am yr arfer o gyflwyno’r cynigion, gyda rhai penaethiaid addysg yn galw’r cynnydd yn “anghyfrifol”.
Mae’r brifysgol yn Llundain wedi cyhoeddi y byddan nhw’n rhoi’r gorau i’r arfer ar gyfer y cyfnod 2018/19.
Yn ôl ystadegau, cafodd 70,000 o gynigion diamod eu cyflwyno yng Nghymru, Lleogr a Gogledd Iwerddon yn 2018. Ar y cyfan mae 22.8% o ddarpar fyfyrwyr – sef tua 58,385 – wedi derbyn o leiaf un cynnig diamod y flwyddyn hon.