Mae un o gerfluniau talaf y byd wedi cael ei godi mewn pentref yn India, er mwyn coffáu un o sylfaenwyr yr India annibynnol.

Sardar Vallabbhai Patel (1875-1950) oedd Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cartref cyntaf yr India ar ôl i’r wlad sicrhau annibyniaeth o’r Ymerodraeth Brydeinig yn 1947.

Mae’r cerflun efydd, sy’n 597 troedfedd o daldra ac yn costio dros £300m, wedi cael ei godi ym mhentref Kevadiya yng ngorllewin y wlad, lle roedd Vallabbhai Patel yn hanu.

Daw’r Prif Weinidog presennol, Narendra Modi o’r un pentref hefyd, ac roedd yn bresennol yn y seremoni i ddynodi codi’r cerflun.

Mae’r cerflun, sy’n cael ei alw’n ‘Statue of Unity’ wedi’i leoli ar lannau afon Narmada.

Bu’r prosiect yn un dadleuol yn y wlad, wrth i rai gwestiynu a yw’r wlad yn gallu fforddio gwario cymaint ar gerflun.

Bydd amgueddfa sy’n cynnwys 40,000 o ddogfennau a 2,000 o luniau, yn ogystal â chanolfan ymchwil, wedi’u lleoli y tu fewn i’r cerflun hefyd.