Mae’r ymchwiliad i ddiflaniad gwerthwraig tai o Lundain 32 mlynedd yn ôl yn parhau, wrth i’r heddlu archwilio gardd mewn eiddo yng nghanolbarth Lloegr.

Roedd Suzy Lamplugh yn 25 oed adeg ei diflaniad yn 1986, wedi iddi adael ei swyddfa yng ngorllewin Llundain er mwyn cyfarfod â chleient a oedd yn dwyn yr enw ‘Mr Kipper’.

Dyw ei chorff ddim wedi cael ei ddarganfod ers hynny, ond mae’r heddlu bellach wedi cadarnhau eu bod nhw’n archwilio tŷ yn Sutton Coldfield a fu’n eiddo i fam y llofrudd, John Cannan.

Mae’r gŵr sydd ar hyn o bryd yn y carchar am achos gwahanol o dreisio a llofruddio, wedi cael ei holi droeon mewn cysylltiad â’r diflaniad, ond does dim cyhuddiad wedi’i wneud.

Mae brawd Suzy Lamplugh, Richard, yn dweud ei fod yn gobeithio y bydd corff ei chwaer yn cael ei ddarganfod yn yr eiddo yn Sutton Coldfield, fel bod modd i’r teulu “ffarwelio’n iawn”.

“Rydym wedi bod yn aros am amser hir ac mae ein gobeithion wedi cael eu codi droeon o’r blaen,” meddai. “Ond fe fydd yn dda petawn ni’n gallu dod â’r mater i ben o’r diwedd.”

Dychwelyd i’r tŷ

Mae’r tŷ yn Heol Shipton yn Sutton Coldfield bellach yn eiddo i’r dyn yswiriant, Phillip Carey, a’i brynodd wrth Sheila Cannan yn 1992.

Dywed nad dyma’r tro cyntaf i’r heddlu ymweld â’r eiddo, wedi i suon 15 mlynedd yn ôl awgrymu bod John Cannan wedi claddu Suzy Lamplugh yng ngardd ei fam.