Cafodd mwy o ymosodiadau eu cyflawni a’u cynllwynio gan frawychwyr Islamaidd yn Ewrop y llynedd, nac yn 2016.
Yn ôl Europol – asiantaeth heddlu’r Undeb Ewropeaidd – roedd yna 33 cynllwyn yn 2017, a deg ohonyn nhw’n cael eu cyflawni.
Roedd y rhan fwyaf o’r cynllwynwyr yn hanu o Ewrop ac erioed wedi teithio i wlad tramor, yn ôl Europol.
Cyllyll oedd yr arf mwyaf cyffredin, a’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) sy’n cael y bai am ran fwyaf o’r ymosodiadau.
Er nad oes deunydd propaganda newydd wedi’i gynhyrchu gan y grŵp ers sbel, mae’r Europol yn credu eu bod yn ailgylchu hen ddeunydd, a’n ei gyhoeddi trwy ddulliau newydd.