Mae arweinwyr Sinn Fein wedi cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o “chwarae ar y dibyn” tros fater y ffin yn Iwerddon.
Daw’r sylw yn dilyn cyfarfod rhwng Llywydd y blaid, Mary Lou McDonald; yr is-Lywydd, Michelle O’Neill; a Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May.
Cred y cenedlaetholwyr yw bod Llywodraeth San Steffan yn “hwylio’n agos i’r gwynt”, gyda’r gobaith y bydd yr Undeb Ewropeaidd yn cyfaddawdu tros y ffin.
“Rydyn ni yma oherwydd bod Brexit yn peri bygythiad real i fuddiannau Gwyddelig – yn y gogledd a’r de,” meddai Mary Lou McDonald.
“Rydyn ni yma oherwydd bod y system Brydeinig, hyd yma, wedi methu â chynnig cynllun credadwy a fyddai’n amddiffyn Cytundeb Gwener y Groglith, yn atal y ffin rhag caledu, a’n amddiffyn hawliau dinasyddion.”
Mae’r Llywydd hefyd yn honni bod y Llywodraeth yn dymuno “anwybyddu” mater y ffin, er budd eu hunain, a bod hynny’n “beryglus iawn” i Iwerddon.