Mae archeolegwyr yng ngogledd Periw yn dweud iddyn nhw ddarganfod tystiolaeth o’r achos mwya’ yn y byd erioed o aberthu plant.
Mae’r gladdfa sy’n cael ei nabod fel Las Llamas yn cynnwys sgerbydau 14o o blant rhwng 5 a 14 oed a gafodd eu haberthu fel rhan o ddefod sy’n dyddio’n ol 550 o flynyddoedd.
Mae’r safle ger dinas Trujillo heddiw, hefyd yn cynnwys gweddillion 200 o gyrff yr anifeiliaid lama, a’r gred ydi i’r plant a’r anifeiliaid gael eu haberthu ar yr un dydd.
Fe sefydlwyd y safle’n wreiddiol gan ymherodraeth Chimu, ac mae arbenigwyr yn credu i’r plant gael eu haberthu wedi i lifogydd a gafodd eu hachosi gan batrwm tywydd El Nino daro arfordir Periw.
Roedd yr anifail lama yn bwysig i bobol Periw, gan mai nhw oedd yn cario llwythi ac yn rhan bwysig o’r economi. Mae’r plant wedi’u claddu yn wynebu’r mor, tra bod y lamas wedi’u claddu yn wynebu mynyddoedd yr Andes i’r dwyrain.
Fe ddechreuodd y gwaith cloddio ar y safle yn 2011, er mai dim ond ddydd Iau yr wythnos hon (Ebrill 26) y daeth y darganfyddiadau diweddara’ i olau dydd.
Ar wahân i’r esgyrn sydd wedi’u darganfod, mae yno hefyd olion traed sydd wedi goroesi glaw ac erydiad tir.