Mae naw o bobol wedi’u lladd yn ystod ymosodiad â chyllell y tu allan i ysgol yng ngogledd-orllewin Tsieina.
Y gred ydi mai cyn-ddisgybl sy’n gyfrifol am y lladdfa, a hynny wrth iddo geisio dial am y modd y cafodd ef ei hun ei fwlian tra’n yr ysgol.
Yn ol llywodraeth sir Mizhi yn nhalaith Shaanxi, mae deg o bobol eraill hefyd wedi’u cludo i’r ysbyty o ganlyniad i gael eu hanafu yn y digwyddiad.
Mae’r heddlu wedi arestio dyn 28 oed.
Gan fod gan Tsieina reolau llym iawn ar gadw gynnau, mae cyllyll a ffrwydron cartref yn fwy poblogaidd gan bobol sydd eisiau cyflawni troseddau fel hyn.
Yn 2010, fe gafodd 20 o blant eu lladd mewn ymosodiadau â chyllyll y tu allan i gatiau ysgolion. Ym mis Mehefin y llynedd, fe lwyddodd dyn 22 oed i greu bom a ffrwydrodd o flaen gatiau ysgol feithrin yn nwyrain Tsieina, gan ladd wyth o bobol yn cynnwys ef ei hun.