Fe ddaeth cadarnhad gan Heddlu Dyfed-Powys fod dyn 35 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio Hollie Kerrell o Drefyclo.

Mae Christopher Llewellyn Kerrell yn cael ei gadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddo ymddangos gerbron llys heddiw (dydd Sadwrn, Ebrill 28).

Dyw’r heddlu ddim yn chwilio am neb arall mewn cysylltiad â’r achos.