Â’r ffrae rhwng Cangen Plaid Cymru Llanelli a’r blaid ganolog yn flwydd oed bellach, mae cyn-aelod yn dweud nad ydyn nhw am “roi’r gorau iddi”.

Er bod y gangen gyfan wedi’u gwahardd ers rhai misoedd, mae Mary Roll yn mynnu bod “grŵp cryf” o aelodau a chyn-aelodau yn mynd i ddal ati i frwydro.

“Mae’r grŵp sydd gennym ni yma yn gryf iawn, ac wedi sefyll ochr yn ochr â’n gilydd am dros flwyddyn er gwaetha’r holl ymosodiadau,” meddai wrth golwg360.

“Dyw pobol ddim am roi’r gorau iddi.

“Dw i ddim yn credu y bydd y grŵp yn chwalu… Maen nhw (Plaid Cymru yn ganolog) wedi gwneud popeth y gallan nhw i’w ddinistrio… dw i’n credu bod y grŵp yn cryfhau.”

Mae’n ategu eu bod yn “aros am amodau tywydd gwell” – hynny yw, yn aros am newid yn arweinyddiaeth y blaid.

Disgyblu

Daw sylw Mary Roll ddiwrnod yn unig wedi i’r grŵp gyflwyno cwyn swyddogol am uwch swyddogion y blaid, a datgelu bod llond llaw o bobol yn wynebu gwrandawiad disgyblu.

Y ‘Llanelli 5’ yw enw Mary Roll am griw’r gwrandawiad, sef Gwyn Hopkins, Meilyr Hughes, Sean Rees, Howell Williams a John Couch; ac mae’n diagrifio’r sefyllfa fel un “absẃrd”.

Roedd tri o’r ‘Llanelli 5’ yn bresennol yng nghyfarfod olaf y gangen, a chred Mary Roll yw bod y blaid yn ganolog eisiau eu gorfodi i ddatgelu enwau eraill oedd yno – fel eu bod yn medru disgyblu rhagor.

Ymateb Plaid Cymru yn ganolog

Nid yw Plaid Cymru am wneud unrhyw sylw ar faterion disgyblu mewnol cyfredol, meddai wrth golwg360.