Bu farw Alfie Evans, y bachgen bach a fu’n destun brwydr gyfreithiol i’w gadw’n fyw yn ysbyty Alder Hey.
Wrth gyhoeddi’r newydd, mae ei rieni, Kate James a Thomas Evans, yn dweud eu bod wedi torri’u calonnau.
Roedd y babi 23 mis wedi bod yn derbyn triniaeth yn Lerpwl, ac roedd ei fam a’i dad wedi dwyn achos i gael yr hawl i fynd ag ef i’r Eidal i gael triniaeth bellach. Fe gollon nhw’r hawl mewn achos apêl ddydd Mercher diwethaf.
Roedd meddygon Alder Hey wedi diffodd yr offer cynnal bywyd ddydd Llun diwethaf, ond roedd y bachgen wedi bod yn anadlu am dros bedwar diwrnod heb gymorth.
“Mae ein angel bach wedi magu adenydd ers 2.3o y bore,” meddai Kate James a Thomas Evans yn eu datganiad, gan ychwanegu fod eu bywydau wedi’u troi “ben i waered” gan y sylw gafodd yr achos o bob cwr o’r byd.