Mae Arlywydd Rwmania wedi galw ar ei Brif Weinidog i ymddiswyddo, gan fynnu nad yw’n ddigon abl i wneud y swydd.
Yn ôl Klaus Iohannis, mae Prif Weinidog benywaidd cyntaf y wlad, Viorica Dancila, yn “dewis dilyn gorchmynion ei phlaid” yn hytrach na gwneud yr hydd orau.
Mae’n cyfeirio at ddylanwad arweinydd plaid y Democratiaid Cymdeithasol, Liviu Dragnea, meddai – ef sy’n rheoli’r Llywodraeth mewn gwirionedd.
Ond yn y bôn, cwyn yw hyn gan Klaus Iohannis yn sgil penderfyniad Viorica Dancila i symud llysgenhadaeth Rwmania i Jerwsalem.
Gwnaeth hynny heb roi gwybod i’r Arlywydd, er mai ef sydd â’r gair ola’ ar y mater.