Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi awgrymu y gallai paneli solar gael eu hychwanegu i’w fur arfaethedig ar y ffin â Mecsico – a hynny er mwyn codi arian.
Yn ystod rali yn Iowa brynhawn ddydd Mercher, dywedodd Donald Trump y byddai wal solar yn “creu egni ac yn talu am ei hun” ac y byddai’r paneli yn gwneud y mur yn “brydferth”.
Dywedodd hefyd y byddai’n golygu byddai’n rhaid i Fecsico “dalu llawer llai” er mwyn adeiladu’r strwythur.
Tra’n ymgeisydd arlywyddol dywedodd Donald Trump y byddai’n gorfodi Mecsico i dalu am y mur ond mae Llywodraeth Mecsico wedi gwrthod y posibiliad.
Roedd y mur ymysg rhai o brif addewidion ei ymgyrch ond dydy’r prosiect ddim wedi bod yn flaenoriaeth i’r Tŷ Gwyn ac nid yw’r gwaith adeiladu wedi dechrau eto.