Mae Prif Weithredwr Cyngor Kensington wedi ymddiswyddo yn dilyn beirniadaeth lem o ymateb y cyngor i drasiedi tân Tŵr Grenfell.
Dywedodd Nicholas Holgate ei fod yn gadael oherwydd ei fod yn ofni y byddai’n “amharu” ar waith awdurdodau, ond mynnodd mai “gofalu am y teuluoedd” oedd blaenoriaeth y cyngor o hyd.
Bellach mae 249 o deuluoedd wedi derbyn lletyau dros dro yn dilyn y tân mewn tŵr fflatiau yng ngorllewin Llundain lle bu farw o leiaf 79 o bobol.
Mae cwest mewn i farwolaethau’r tân wedi awgrymu y gwnaeth nwy gwenwynig o gladin yr adeilad gyfrannu at y marwolaethau.
Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May, wedi ymddiheuro am ymateb llywodraeth leol a chenedlaethol i’r trasiedi ac mi fydd hi’n annerch Tŷ’r Cyffredin ddydd Iau.