Marion Marechal Le Pen
Mae nith ymgeisydd y Front National am arlywyddiaeth Ffrainc, yn dweud ei bod yn rhoi’r gorau i fyd gwleidyddiaeth – gan nodi rhesymau “personol a gwleidyddol” tros wneud hynny.
Roedd Marion Marechal-Le Pen yn cael ei gweld fel un o ser y dyfodol i’r blaid genedlaetholgar a gwrth-fewnfudo.
Ond, mewn llythyr sydd wedi’i gyhoeddi heddiw mewn papur rhanbarthol, mae hi’n dweud na fydd hi’n sefyll eto ym i gael ei hail-ethol ym mis Mehefin. Mae’n cynrychioli ardal Vaucluse.
Mae’r gwleidydd 27 oed yn wyres i sylfaenydd plaid y Front National, ac mae hi hefyd yn dweud y bydd yn rhoi’r gorau i fod yn aelod o gyngor ardal lle mae hi ar hyn o bryd yn arweinydd yr wrthblaid.
Ar sawl achlysur, mae Marion Marechal-Le Pen wedi’i chael ei hun yn anghytuno gyda’i modryb ar faterion polisi’r blaid.