Bydd tîm rygbi Cymru’n herio Awstralia a Georgia yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn Siapan ymhen dwy flynedd.
Maen nhw wedi llwyddo i osgoi Lloegr a Seland Newydd.
Roedd Cymru ymhlith yr ail ddetholion ar gyfer y gystadleuaeth, oedd hefyd yn golygu eu bod nhw’n osgoi Ffrainc, Yr Alban a De Affrica.
Dim ond 12 o dimau gafodd eu tynnu o’r het heddiw, gyda’r wyth tîm sy’n weddill yn cymhwyso cyn diwedd 2018.
Bydd Cymru’n wynebu’r tîm yn yr ail safle yn yr Americas, prif dîm Oceania a Georgia.