Mae’r chwilio yn parhau ym Mor y Gogledd am ddyn sydd wedi mynd ar goll o lwyfan olew.

Fe dderbyniodd yr heddlu adroddiadau fod dyn 49 oed, a oedd wedi bod yn gweithio ar rig Noble Lloyd Noble yn Mariner Field, rhyw 90 milltir i’r dwyrain o Shetland.

Wedi methu dod o hyd i’r gwr ar y llwyfan, fe gafodd gwylwyr y glannau eu galw i fod yn rhan o’r chwilio.