Jeff Session adeg yr ymgyrch (Gage Skidmore CCA3.0)
Mae’r Arlywydd Trump wedi cyhuddo’i elynion o erlid Twrnai Cyffredinol y wlad tros ei gysylltiadau â Rwsia.

Mae wedi honni na wnaeth Jeff Sessions ddim o’i le wrth wadu cyfarfod cynrychiolwyr o Rwsia yn ystod yr ymgyrch etholiadol yn yr Unol Daleithiau  – er ei fod wedi cwrdd ddwywaith â llysgennad y wlad.

Yn ôl Donald Trump, mae Jeff Sessions yn “ddyn onest” sydd “heb wneud dim o’i le” er y gallai fod wedi “esbonio ei ymateb yn well”.

Galw am ymddiswyddiad

Fe gafodd y Twrnai ei orfodi i beidio â chymryd rhan mewn ymchwiliad i’r cysylltiadau rhwng cefnogwyr Donald Trump a Rwsia ond mae rhai Democrataid wedi bachu ar y cyfle i alw am ymddiswyddiad y Twrnai Gweriniaethol.

Pebai hynny’n digwydd, ef fyddai’r ail un o weinidogion Donald Trump i orfod ymddiswyddo tros helynt o’r fath ac mae’r Tŷ Gwyn wedi cydnabod bod mab yng nghyfraith yr Arlywydd hefyd wedi cwrdd â’r llys-gennad cyn y Nadolig – er mai “cyfarfod cwrteisi” oedd hwnnw.

Mae’r dadlau diweddara’n ychwanegu at y pwysau ar Donald Trump tros ei gysylltiadau â Rwsia a r0034l Rwsia yn yr etholiad, a nhwthau wedi eu cyhuddo o ymyrryd i ddylanwadu ar y canlyniadau.