Tudalen Twitter ymgyrch Mehala Osbourne
Mae mesurau newydd yn cael eu cyhoeddi heddiw i’w gwneud hi’n haws i ddioddefwyr cam-drin domestig gofrestru’n anhysbys ar gyfer etholiadau.

Fe fydd yn ei gwneud hi’n haws iddyn nhw gael yr hawl i gadw eu henwau a’u cyfeiriadau’n ddirgel wrth gofrestru ar gyfer pleidleisio.

Y syniad yw y bydd yn eu gwarchod rhag y peryg fod camdrinwyr yn defnyddio’r cofrestri i ddod o hyd i’w cyfeiriadau newydd.

Daw’r newidiadau yn sgil ymgyrch gan gyn-ddioddefwraig, Mehala Osborne, sydd am weld menywod sydd yn byw mewn llochesi a thai diogel hefyd yn cael eu hannog i bleidleisio.

Fe groesawodd hi’r newid diweddara’ trwy ddweud ei fod yn “newyddion ffantastig i’r miloedd oedd wedi ymgyrchu”.

Rhwystr i ddemocratiaeth

“Ddylai menywod ddim cael eu hatal rhag cymryd rhan mewn democratiaeth oherwydd cam drin domestig,” meddai Prif Weithredwr Women’s Aid, Polly Neate.

“Mae’r newidiadau sydd wedi eu cynnig yn danfon neges glir i oroeswyr cam-drin domestig- mae’n bwysig eu bod yn cymryd rhan ym myd gwleidyddiaeth.”

“Mae’n glir bod y sustem bresennol yn methu yn aml ar gyfer y rhai sydd wedi eu heffeithio gan gam-drin domestig,” meddai Gweinidog Swyddfa’r Cabinet, Chris Skidmore.