John F Kennedy
Mae’r ffrog enwog wisgodd Marilyn Monroe wrth ganu “happy birthday Mr President” i John F Kennedy wedi ei gwerthu mewn ocsiwn am £3.87 miliwn.

Fe gafodd y ffrog ei phrynu gan gwmni amgueddfeydd Ripley’s Believe It Or Not yn Julien’s Auctions yn Los Angeles.

Dyma’r ffrog ddrytaf erioed, gyda’r pris yn uwch na’r £3.7 miliwn gafodd ei dalu yn 2011 am y ffrog a wisgodd Marilyn Monroe yn y ffilm The Seven Year Itch.

Ar ôl prynu’r ffrog ‘pen-blwydd hapus Mr Arlywydd’, dywedodd Edward Meyer, Is-Lywydd Ripley’s Believe It Or Not: “Rydym yn credu mai dyma’r darn mwyaf eiconig o ddiwylliant poblogaidd sy’ mewn bod… ni fedraf feddwl am unrhyw un eitem sy’n dweud stori’r 1960au yn well na’r ffrog yma.”

Mae’n debygol y bydd y ffrog yn cael ei harddangos yn amgueddfa Ripley’s Believe It Or Not yn Hollywood cyn symud i amgueddfeydd eraill y cwmni o amgylch y byd.

Fe wisgodd Marilyn Monroe y ffrog a pherfformio i’r Arlywydd Kennedy ar Fai 19, 1962, cyn ei ben-blwydd yn 40 oed.

Fe gafodd y seren Hollywood ei darganfod yn farw lai na thri mis yn ddiweddarach, yn 36 oed.