Cartref Shirley Oaks (o dudalen Faceboo Cymdeithas Goroeswyr Shirley Oaks)
Mae un o grwpiau mwya’r ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant wedi cyhoeddi ei fod yn rhoi’r gorau i gymryd rhan ynddo.

Dywedodd Cymdeithas Goroeswyr Shirley Oaks fod yr holl ymchwiliad wedi cael ei “drefnu mewn ffordd sy’n galluogi’r euog i olchi eu dwylo brwnt, tra bod y sefydliad yn canmol ei hun”.

Dyma’r rhwystr diweddaraf i’r ymchwiliad, a gafodd ei sefydlu yn 2014 gan yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, Theresa May.

Mae’r grŵp yn cynrychioli pobol sydd wedi cael eu cam-drin yng nghartref plant Shirley Oaks a oedd dan adain Cyngor Lambeth, de Llundain.

‘Cawlach’

Dywedodd llefarydd ar ran Grwp Shirley Oaks mewn datganiad fod yr ymchwiliad yn “gawlach sydd angen newid drastig os yw’n mynd i gyflawni ei amcanion cychwynnol”.

Mae’r cyhoeddiad yn dod ddau ddiwrnod ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod y gyfreithwraig, Aileen McColgan, oedd yn rhan o’r ymchwiliad wedi ymddiswyddo.

Daeth ei hymadawiad ar ôl i Ben Emmerson, uwch gwnsler yr ymchwiliad, a’i gydweithiwr, Elizabeth Prochaska, ymddiswyddo hefyd.

Ers ei sefydlu, mae’r ymchwiliad wedi cael pedwar cadeirydd gwahanol.

Galw am ymddiswyddo

Mae Cymdeithas Goroeswyr Shirley Oaks hefyd wedi galw ar aelodau eraill y panel i ymddiswyddo.

Roedd disgwyl i’r ymchwiliad bara pum mlynedd i ddechrau ond mae awgrymu nawr y gallai bara am hyd at ddegawd.