Shinzo Abe (Llun Llywodraeth yr Unol Daleithiau)
Mae Prif Weinidog Japan yn dweud bod Donald Trump yn ddyn y gall o gael “hyder mawr” ynddo.

Roedd Shinzo Abe’n siarad ar ôl cyfarfod rhyngddo a’r Darpar-Arlywydd – yr arweinydd rhyngwladol cynta’ i gwrdd ag ef ers yr etholiad.

Roedd yn ganmoliaethus, er gwaetha’ datganiadau Donald Trump ei fod eisiau i wledydd fel Japan a De Corea dalu mwy am gadw milwyr Americanaidd ar eu tir.

Maen nhw eisoes yn cyfrannu cannoedd o filiynau o bunnoedd ond, yn ôl yr arweinydd newydd, fe ddylen nhw wneud rhagor.

Cytundeb

Mae Donald Trump hefyd wedi siarad yn erbyn cytundeb masnachol arfaethedig rhwng yr Unol Daleithiau a gwledydd y Môr Tawel – cytundeb y mae Shinzo Abe’n frwd o’i blaid.

Fe fydd agwedd y Darpar-Arlywydd at faterion fel hyn yn cael eu gweld yn brawr ar ei bolisi rhyngwladol ehangach.

Roedd y cyfarfod ei hun yn arwydd o dorri confensiwn – dyw hi ddim yn arferol i Ddarpar-Arlywyddion gynnal cyfarfodydd gydag arweinwyr eraill, nes dod i’r swydd.