Wyneb hapus ar wefan y Cmni Benthyciadau Myfyrwyr - ond nid y tro yma (Llun o wefan y cwmni)
Mae Llywodraeth Cymru’n dweud y dylai’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr fynd ati ar unwaith i ddatrys problem sydd wedi creu caledi ariannol i 68 o fyfyrwyr o Gymru.
Roedd camgymeriad gan y cwmni’n “annerbyniol”, meddai Ysgrifennydd y Cabinet tros Addysg, Kirsty Williams.
Mae deiseb ar-lein hefyd wedi ei lansio ar ran myfyrwyr o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn erbyn y penderfyniad i wrthod benthyciadau ol-radd iddyn nhw.
Mae’r cwmni wedi cydnabod eu bod wedi gwneud camgymeriad yn achos y myfyrwyr, a hynny mewn peryg o gostio cymaint â £10,000 i’r unigolion.
Y cefndir
Roedd y myfyrwyr o Gymru’n bwriadu gwneud graddau pellach mewn prifysgolion yn Lloegr ac wedi llwyddo gyda chesiiadau am fenthyciadau gan y cwmni.
Camgymeriad oedd hynny – gan nad oedden nhw wedi byw’n ddigon hir yn Lloegr – ond chawson nhw ddim gwybod nes dechrau ar eu cyrsiau a llawer wedi ymrwymo i dalu rhent am lety a chostau eraill.
Fe fu rhai o’r myfyrwyr yn dweud am y problemau wrth Radio Wales gydag un, James Sutherland Bowys, yn dweud fod dau ddiwrnod o’i gwrs wedi mynd cyn iddo gael gwybod am y camgymeriad.
Fe fydd gan y myfyrwyr hawl i apelio ond, yn ôl Kirsty Williams, mae angen i’r Cwmni Benthyciadau ddatrys y broblem beth bynnag.