Llys Ynadon Westminster (llun y gwasanaeth llysoedd)
Fe fydd dyn sy’n byw yn Wrecsam yn ymddangos gerbron llys heddiw ar gyhuddiadau’n ymwneud â brawychaeth.

Mae Aabid Ali, 48, wedi ei gyhuddo ar ddau gyfri’:

  • Meddu ar ddogfen a allai fod yn ddefnyddiol i rywun oedd eisiau achosi gweithred frawychol.
  • Annog brawychaeth.

Fe gafodd ei arestio ar ei ffordd o’r gwaith ddoe ac fe fydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Westminster heddiw.

Y cyrch

Roedd yr arestio’n rhan o gyrch ar y cyd gan Heddlu Gogledd Cymru, Uned Gwrth Frawychaeth Eithafol Cymru ac uned debyg o’r West Midlands yn Lloegr.

Roedd aelodau o’r gymuned Foslemaidd yn Wrecsam wedi helpu gyda’r ymchwilaid, meddai Prif Gwnstabl Cynorthwyol Gogledd Cymru, Richard Debicki.

Mae Aabid Ali yn dod yn wreiddiol o Fanceinion a’i enw gwreiddiol oedd Darren Glennon.