Mae’r awdurdodau yn China wedi tynhau’r mesurau diogelwch o gwmpas Sgwar Tiananmen yn Beijing, a hithau heddiw’n ben-blwydd y protestiadau gan fyfyrwyr yno 27 mlynedd yn ol.

Mae bagiau yn cael eu chwilio heddiw gan yr heddlu, ac mae cardiau adnabod yn cael eu gwirio wrth i bobol fynd i mewn i’r sgwar lle bu miloedd o fyfywwyr, pobol gyffredin a gweithwyr yn ymgynnull yn 1989 er mwyn galw am ddiwygiad gwleidyddol.

Mae rhai newyddiadurwyr wedi eu hanfon o’r ardal hefyd am beidio bod â’r dogfennau caniatad cywir yn eu meddiant.

Mae’n bosib fod miloedd o bobol wedi’u lladd wrth i’r tanciau ddod i mewn i’r sgwar ar noson Mehefin 3-4, 1989. Mae’r mater yn un sydd wedi’i sgubo dan y carped yn China, a does neb yn ei drafod na’i goffau yn gyhoeddus.