Mae ymchwiliad llofruddiaeth ar y gweill, wedi i heddlu yn Suffolk ddod o hyd i gorff dyn 75 oed.

Roedd Peter Stuart wedi bod ar goll, ond fe ddaethpwyd o hyd i’r corff toc wedi 7yh nos Wener mewn coedwig yn Weybread, nepell o’i gartre’. Mae ei wraig, Sylvia Stuart, yn dal i fod ar goll.

Mae Heddlu Suffolk yn dal i aros am gadarnhad ffurfiol mai corff Mr Stuart a ganfuwyd. Doedd neb wedi ei weld ers Mai 28.

“Rydyn ni’n trin yr achos hwn fel un o lofruddiaeth,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Suffolk. “Rydyn ni hefyd yn parhau i chwilio am Sylvia.