Mae 18 merch, rhwng pump a 12 oed wedi cael eu lladd mewn tân mewn ysgol breswyl yng ngogledd Gwlad Thai.

Mae’n debyg bod y tân wedi digwydd mewn ystafell ar ail lawr yr ysgol tra roedd y merched yn cysgu.

Dywedodd ffynhonnell o’r heddlu bod pum merch arall wedi cael niwed, dwy ohonynt yn ddifrifol, yn y digwyddiad yn nhalaith Chiang Rai.

Roedd dau o’r cyrff wedi cael eu llosgi mor wael, doedd dim modd eu hadnabod, ychwanegodd y ffynhonnell.

Mae rhai merched wedi goroesi heb anafiadau, ond dydy’r awdurdodau ddim yn gwybod faint eto.

Roedd ymladdwyr tân wedi treulio tair awr yn ceisio diffodd y tân yn yr adeilad pren.

Dydy achos y tân heb ei gadarnhau eto.