Y Canghellor George Osborne Llun: PA
Fe fyddai gadael yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn arwain at ddirwasgiad ym Mhrydain a fyddai’n parhau am flwyddyn, fe rybuddiodd George Osborne heddiw.

Yn ôl dadansoddiad gan y Trysorlys, fe fyddai’r DU yn dioddef effeithiau economaidd “dwfn ac uniongyrchol” yn dilyn pleidlais i adael yr Undeb a fyddai’n cael ei wneud yn waeth yn sgil y trafodaethau fyddai’n dilyn.

Mae’r Canghellor George Osborne wedi rhyddhau’r dadansoddiad cyn i’r refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r UE gael ei gynnal union fis i heddiw.

Mae’n dangos y byddai twf economaidd o leiaf 3.6% yn is petai pobl yn pleidleisio o blaid Brexit yn y refferendwm ar 23 Mehefin, ond fe allai ostwng cymaint â 6%.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn rhybuddio gan lywodraeth Banc Lloegr Mark Carney a’r Gronfa Ariannol Ryngwladol ynglŷn ag effaith gadael yr UE.

Ond mae rhai sy’n cefnogi gadael yr Undeb yn dweud nad yw’r dadansoddiad yn “asesiad gonest.”

Dywedodd Iain Duncan Smith: “Mae’n ffaith ein bod ni’n rhoi £350 miliwn yr wythnos i’r UE. Os ydyn ni’n pleidleisio dros adael fe allwn ni gymryd rheolaeth o’r arian yna a’i ddefnyddio i helpu pobl yma ym Mhrydain.

“Fe fyddwn ni hefyd yn cymryd rheolaeth yn ôl o’n heconomi gan greu cannoedd ar filoedd o swyddi newydd wrth i ni ddod i gytundeb masnach gyda gwledydd sy’n tyfu yng ngweddill y byd.”